Croeso i Manaros, Aberdaron

Manaros - Llety Newydd Sbon 4 seren, ar gyfer hyd at 8 o bobl

Manaros - y tŷ

Llety moethus, hygyrch ar un llawr, wedi ei adeiladu’n bwrpasol ar gyfer ei osod i grwpiau o ffrindiau / teuluoedd sy’n chwilio am le i fwynhau holl fuddiannau llety cynllun agored helaeth a chyfforddus, ynghyd â phreifatrwydd man diarffordd, a 4 ystafell wely ddwbl en suite.

• Man byw mawr, cynllun agored gyda stof sy'n llosgi coed.
• Man bwyta gyda bwrdd sy'n ymestyn i wneud lle i hyd at 12 o bobl
• 4 ystafell wely dwbl / deuol en suite
• Cegin integredig gyda'r holl gyfarpar, yn cynnwys popty aml-ddefnydd, oergell a rhewgell Americanaidd, a pheiriant golchi llestri
• Ystafell wydr gyferbyn â man patio helaeth, gyda lle i gael barbeciw, yn edrych allan dros gaeau agored
• Ystafell olchi / sychu dillad, ynghyd â lle ychwanegol ar gyfer storio beics ac ati.
• Adeilad eco-gyfeillgar
• 3 munud o daith ar droed o bentref hardd Aberdaron, yn cynnwys 2 dafarn ragorol, siopau a'r traeth.

Aberdaron - yr ardal

 
Aerial view of Aberdaron, looking south-west

 

Mwy pethau i'w gwneud >>

Mae Aberdaron, sydd wedi ei leoli ym mhen draw Penrhyn Llŷn yng ngogledd orllewin Cymru, yn bentref glan môr prydferth gyda thraeth tywod godidog, sy’n cael ei alw’n "Ben draw’r Byd". Mae Penrhyn Llŷn wedi ei ddynodi’n Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Mae digonedd o forloi, dolffiniaid a phob math o adar i’w gweld yma. Mae Ynys Enlli ddwy filltir o’r lan, a gallwn drefnu i chi groesi yno – mae’n brofiad unigryw. Y mae tri chwrs golff 18 twll ar y penrhyn, ac rydym yn llogi beiciau i chi allu mynd am dro ar hyd lonydd tawel yr ardal wledig brydferth hon. Gyda Llwybr Arfordir Llŷn wedi ei sefydlu’n ddiweddar, mae hon yn ardal ardderchog ar gyfer cerdded ynddi, ac rydym yn darparu mapiau, ac yn cynnig cyngor ar lwybrau teithiau.

Mae Manaros, fel mae’r enw yn ei awgrymu, yn fan i oedi neu orffwys. Mae wedi’i leoli oddi ar ffordd dawel, sydd o fewn cyrraedd hawdd ar droed i’r pentref, lle gall ymwelwyr fwynhau cyrchfan hynafol y Pererinion, Eglwys Sant Hywyn, siopau a thraeth tywod gwych sy’n filltir o hyd. Mae dau westy’n cynnig prydau rhagorol.

Mae Manaros yng ngofal preswylwyr bwthyn cyfagos, Dolfor, lle mae’r busnes Taith Ymylon Cymru yn cael ei redeg. Bydd pob cwsmer yn cael eu cyfarch yn bersonol, a gellir darparu ar gyfer gofynion arbennig.

 

Dod o hyd i ni: Multi Map

 

<< Rhagor o wybodaeth ar ein tudalen llety >>

 

pen y dudalen